Lleoliad:
Remote - Digital
Dyddiad: Dydd Mawrth, 4 Gorffennaf 2023
Amser:
09.00 -
10.17
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd) Lesley Griffiths AS Darren Millar AS Heledd Fychan AS |
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Yan Thomas (Dirprwy Glerc) |
Eraill yn bresennol |
Jane Dodds AS David Rees AS, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Bethan Davies, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Siân Wilkins, Pennaeth Gweithdrefnau a Sgiliau Seneddol Llinos Madeley, Gweithdrefnau a Sgiliau Seneddol Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau'r i'r cyfarfod. Croesawodd y Llywydd Heledd Fychan i'w chyfarfod cyntaf fel aelod o’r Pwyllgor Busnes a diolchodd i Siân Gwenllian am ei chyfraniad at waith y Pwyllgor.
2 Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi
3 Trefn Busnes
3.1 Busnes yr wythnos hon
Dydd Mawrth
Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes mai hi fydd yn ateb y Cwestiynau i’r Prif Weinidog heddiw yn lle’r Prif Weinidog.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnig bod y Senedd yn ethol yr Aelodau a ganlyn i bwyllgorau, ac i'r cynigion gael eu trafod yn dilyn y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes:
- Mabon ap Gwynfor i gymryd lle Rhun ap Iorwerth ar y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
- Heledd Fychan i gymryd lle Sioned Williams ar y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
- Luke Fletcher i gymryd lle Mabon ap Gwynfor ar y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai
- Llyr Gruffydd i gymryd lle Heledd Fychan ar Bwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol
- Adam Price i gymryd lle Peredur Owen Griffiths ar y Pwyllgor Ddeddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
- Peredur Owen Griffiths i gymryd lle Luke Fletcher ar y Pwyllgor Deisebau
- Adam Price i gymryd lle Mabon ap Gwynfor ar y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus
Dydd Mercher
Tynnodd y Llywydd sylw at y newid a ganlyn:
3.2 Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes y byddai angen gohirio'r ddadl Cyfnod 3 ar Fil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru) o 11 Gorffennaf tan dymor yr hydref, am fod angen cyflwyno gwelliannau yn sgil y newidiadau i'r Bil Caffael yn San Steffan.
Yn gysylltiedig â hynny, tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn:
Dydd Mawrth 11 Gorffennaf 2023
·
Datganiad gan y Gweinidog Newid
Hinsawdd: Adolygiad Annibynnol ac adroddiadau 2020-21 Cyfoeth
Naturiol Cymru ar lifogydd (30 munud) – Gohiriwyd tan 12 Medi
·
Dadl: Adroddiad Blynyddol
Llywodraeth Cymru – cyflawni blaenoriaethau a rhaglen
ddeddfwriaethol y llywodraeth Amcanion Polisi a Rhaglen
Ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru – adroddiad blynyddol
Llywodraeth Cymru (60 munud) Ailenwyd
·
Dadl: Bil Caffael y Gwasanaeth
Iechyd (Cymru) (60 munud) Gohiriwyd
Dydd Mawrth 12 Medi 2023
· Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Adolygiad Annibynnol ac adroddiadau 2020-21 Cyfoeth Naturiol Cymru ar lifogydd (30 munud)
3.3 Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf
Cytunwyd ar y newidiadau a ganlyn i amserlen Busnes y Senedd am y tair wythnos nesaf:
Dydd Mercher 12 Gorffennaf 2023 –
Dydd Mercher 20 Medi 2023 –
3.4 Llythyr oddi wrth gadeiryddion y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a'r Pwyllgor Deisebau ynghylch dadl ar y cyd ar adroddiadau yn ymwneud â phlant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal
Derbyniodd y Pwyllgor Busnes gais y pwyllgorau i gynnal dadl ar y cyd ar eu hadroddiadau yn ymwneud â phlant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal, gan gytuno i newid teitl y ddadl ar y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes i adlewyrchu hynny. Nododd y Pwyllgor Busnes hefyd:
4 Deddfwriaeth
4.1 Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyfeirio Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Ynni i’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad graffu arno, gan nodi mai 15 Medi oedd y terfyn amser ar gyfer cyflwyno adroddiad.
Nododd y Pwyllgor lythyr oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad Dros Dro at y Gweinidog Newid Hinsawdd yn mynegi pryder difrifol y Pwyllgor am oedi gan Lywodraeth Cymru wrth osod y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol.
4.2 Bil Diwygio'r Senedd - amserlen
Trafododd y Pwyllgor Busnes amserlen arfaethedig gan Lywodraeth Cymru ar gyfer ystyried Bil Diwygio'r Senedd, a chytunodd i ohirio’r penderfyniad ar y mater hwn nes ei fod wedi ystyried yn llawn y trefniadau ar gyfer craffu ar Filiau sy’n ymwneud â diwygio'r Senedd, ac wedi ymgynghori â'r Pwyllgor priodol ynghylch amserlen arfaethedig y Bil.
4.3 Craffu ar Filiau yn ymwneud â Diwygio’r Senedd
Trafododd y Pwyllgor Busnes opsiynau ar gyfer y dull cyffredinol o graffu ar Filiau yn ymwneud â Diwygio'r Senedd a chytunodd i sefydlu pwyllgor Biliau annibynnol, ac i gyfeirio’r ddau Fil sy’n ymwneud â diwygio'r Senedd at y Pwyllgor hwnnw ar gyfer gwaith craffu Cyfnod 1. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y byddai'n ystyried cynnig i'r Senedd y dylai trafodion Cyfnod 2 gael eu cynnal gan Bwyllgor o'r Senedd Gyfan.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes y byddai’n trafod ymhellach y goblygiadau posibl pe bai’r un Pwyllgor yn cael cais i fod yn gyfrifol am graffu ar Fil disgwyliedig ar weinyddiaeth etholiadol a Bil diwygio yn yr un cyfnod.
Roedd y rhan fwyaf o aelodau'r Pwyllgor Busnes yn cytuno y dylid gwahodd y grŵp Llafur i enwebu Cadeirydd ar gyfer y Pwyllgor. Cytunwyd hefyd y dylai'r Pwyllgor gynnwys pedwar aelod (dau o’r Blaid Lafur, un yr un o grwpiau’r Ceidwadwyr a Phlaid Cymru), ac y dylid ystyried ymhellach yr opsiynau ar gyfer cynnwys Jane Dodds. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y byddai aelodaeth y Pwyllgor yn gytbwys rhwng y rhywiau.
Y tu allan i'r cyfarfod, bydd yr ysgrifenyddiaeth hefyd yn rhannu dadansoddiad â’r Rheolwyr Busnes o’r sefyllfa bresennol o ran cydbwysedd rhwng y rhywiau ymhlith cadeiryddion ac aelodau’r pwyllgorau.
5 Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2024-25
5.1 Llythyr oddi wrth y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd ynghylch yr amserlen ar gyfer cyhoeddi’r gyllideb ddrafft a’r gyllideb derfynol ar gyfer 2024-25
Trafododd y Pwyllgor Busnes yr amserlen arfaethedig ar gyfer cyhoeddi’r gyllideb ddrafft a’r gyllideb derfynol ar gyfer 2024-25 a chytunodd i ymgynghori â'r Pwyllgor Cyllid ar yr amserlen arfaethedig ac i ddychwelyd at y mater yn eu cyfarfod cyntaf yn nhymor yr hydref.
6 Rheolau Sefydlog
6.1 Trafod yr adroddiad drafft ar ddiwygio Rheolau Sefydlog: y Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad Covid-19 Cymru
Trafododd y Pwyllgor Busnes adroddiad drafft yn cynnwys cynnig am Reol Sefydlog dros dro ar Bwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad Covid-19 Cymru, a chytunodd arno. Bydd cynnig bod y Senedd yn cytuno ar y Rheol Sefydlog dros dro arfaethedig yn cael ei gyflwyno i'w drafod ddydd Mercher 12 Gorffennaf.
Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ysgrifennu at y Bwrdd Taliadau Annibynnol i roi crynodeb o'r hyn a benderfynwyd ganddo ac i lywio trafodaethau’r Bwrdd ynghylch y trefniadau o ran tâl y Cyd-gadeiryddion.